Tag Archives: botaneg

Diwrnod Menywod mewn STEM: Maria Dawson, graddedig gyntaf Prifysgol Cymru

Y botanydd Maria Dawson oedd y person cyntaf i dderbyn gradd gan Brifysgol Cymru, ym 1896.

Dawson oedd y cyntaf, ar y cyd ag un arall, i dderbyn teitl Doethur y Gwyddorau gan Brifysgol Cymru, a derbyniodd ysgoloriaeth wyddonol i barhau ei hastudiaethau ym maes gwrtaith ac amaeth.

Llun o Maria Dawson, y person cyntaf i raddio o Brifysgol Cymru
Miss Dawson yn derbyn ei Doethuriaeth, o gylchgrawn Coleg Prifysgol Caerdydd, Rhagfyr 1900

Gwobrwyo Graddau Cyntaf Cymru

Ym 1892, ymunodd Dawson a Choleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy (y sefydliad a ddaeth cyn Prifysgol Caerdydd) i astudio mathemateg, cemeg, sŵoleg a botaneg.

Ar yr adeg honno, doedd dim hawl gan y Coleg i roi graddau, felly byddai’r myfyrwyr yn sefyll arholiadau Prifysgol Llundain fel rheol.

Ym 1893, sefydlwyd Prifysgol Cymru, fyddai’n newid byd addysg Cymru am byth, gyda Cholegau Prifysgol Aberystwyth, Bangor a Chaerdydd yn aelodau. Golygai hyn y gallai Maria Dawson gael gradd gan sefydliad Cymreig.

Perfformiad Academaidd

Roedd Dawson yn fyfyrwraig ddawnus: mi enillodd wobr arddangosfa (ysgoloriaeth) am safon ei harholiad mynediad, a dalodd am ei ffïoedd i gyd – ac enillodd un arall ar ddiwedd y flwyddyn.

Roedd ganddi ddawn wyddonol, gan ennill gwobrau yn ei phedwar pwnc yn ystod ei hail flwyddyn.

Labordy Cemeg ym 1899 yn dangos dynion a merched yn derbyn addysg
Labordy Cemeg yng Nghaerdydd ym 1899 yn dangos dynion a merched yn derbyn addysg

Ymchwil Arloesol

Wedi iddi raddio gyda B.Sc., enillodd wobr o £150 gan Gomisiwn Brenhinol Arddangosfa 1851.

Yn Labordai Botanegol Caergrawnt, fe aeth ati i ymchwilio effeithiau nitrogen ar blanhigion, oedd yn arfer newydd iawn ar y pryd.

Yn ei phapur ‘”Nitragin and the nodules of leguminous plants” ei damcaniaeth oedd na ddylai ychwanegu nitrogen yn ormodol i bridd, ond bod ei ddefnydd mewn pridd gwael yn gallu cynyddu cynaeafau.

Merched Parchus Neuadd Aberdar

Efallai na fyddai Dawson wedi dod i Gaerdydd oni bai am y neuadd breswyl arbennig ar gyfer menywod, Neuadd Aberdâr.

Darlun artist o Neuadd Aberdar fel yr edrychai ym 1895

Roedd ei theulu yn byw yn Llundain – rhy bell iddi ddychwelyd adre bob dydd – a roedd yn annerbyniol yn ôl moesau’r oes i fyfyrwraig ddi-briod fyw ar ei phen ei hun.

Sefydlwyd Neuadd Aberdâr ym 1885, un o’r neuaddau preswyl cyntaf yn y DU i fenywod.

Seremoni Raddio gyntaf Prifysgol Cymru

Clawr wedi ei ddarlunio a llaw, rhifyn cyntaf yr 'University College Magazine', Rhagfyr 1885
Cylchgrawn cyntaf Coleg y Brifysgol, Rhagfyr 1885

Ar yr 22ain o Hydref 1897, ymgasglodd myfyrwyr Prifysgol Cymru yn Neuadd y Parc, neuadd gyngerdd fawr, ar gyfer seremoni raddio gyntaf y sefydliad.

Dyma oedd gan gylchgrawn Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy, cyhoeddiad gan fyfyrwyr, i’w ddweud am yr achlysur arbennig hwn:

“The first to be presented was Miss Maria Dawson, for the degree of B.Sc., and her appearance was the signal for a great outburst of enthusiasm among the audience. The Deputy-Chancellor… gave her the diploma…, and with a… bow… she retired amid deafening cheers.”

Rydym ni’n dathlu Maria heddiw, a’n falch o’n hanes hir o gefnogi ymchwil menywod yn y gwyddorau – cewch weld rhagor o straeon o fenywod sy’n arloesi heddiw fan hyn: Diwrnod Menywod Mewn STEM.

Gallwch ddarllen gwaith Maria Dawson am Nitrogen fan hyn: Maria Dawson, ‘“Nitragin” and the nodules of leguminous plants’, Proceedings of the Royal Society of London, Vol. 64, 167-168 (1899) http://doi.org/10.1098/rspl.1898.0086