Ymddangosodd TTP (Turning The Pages) yn yr Eisteddfod Genedlaethol am y tro cyntaf yn ystod yr wythnos. Mae TTP yn cynnwys meddalwedd i droi tudalennau mewn 3D ar sgrin 40″, ac mae’n cynnwys 10 o’r llyfrau prinnaf yn SCOLAR – o’r 14g hyd at yr 20g. Bydd TTP ar gael i deithio o amgylch Cymru mewn fersiynau symudol, er mwyn dangos trysorau ein llyfrau prin i’r cyhoedd. Prifysgol Caerdydd yw’r unig sefydliad yng Nghymru sy’n defnyddio TTP i hyrwyddo eu casgliadau arbennig.
[ TTP appears in the National Eisteddfod for the first time. ]http://www.cardiff.ac.uk/eisteddfod/

